home photos animate

arnopp@hotmail.com

The Teifi Inn public house and restaurant has a comfortable and relaxed atmosphere and prides itself on fantastic food and a great choice of drinks. Situated in the rural village of Ffair Rhos (around 15 miles from Aberystwyth), the Tafarn Teifi Inn is surrounded by outstanding natural beauty with views over the hills and Cambrian mountains and the Cors Caron Nature Reserve.

teifi pools

Catrin and Mike are not unfamiliar with the area after returning from south Wales. Catrin is originally from Devils Bridge, just a few miles away from the Teifi Inn. Catrin became a welsh teaching teacher at Cardiff. Mike, Catrins husband is a qualified chef with a highly reputable resumé. Having worked in top restaurants across London. Mike can also boast his role as head chef at the Celtic Manor Resort at Newport, running all of the golf club kitchens. The Old Post Office restaurant in Cardiff is also where Mike has headed the kitchen as well as the Abbey Hotel in Great Malvern. And now Mike is here in Ffair-Rhos bringing his talent and experience to the customers at the Teifi Inn!
All food is prepared daily and using only the finest and freshest ingredients. We can bring you a great choice of meals from freshly prepared chips to the finest steak.
Inside, the Teifi Inn has ample seating and the well proportioned bar area is always accessable. Friendly staff compliment the surroundings and we endeavour to make you feel welcome! To the rear of the bar and restaurant, a terrace and beer garden are available for when the sun is shining, making somewhere for you to relax and enjoy your drink!

The Teifi Inn is situated on the cross road at Ffair Rhos and is an appealing old hostelry with a history going back to the 12th century when it was used as a place of refreshment for passing monks from Strata Florida.

Tafarn a bwyty cyfforddus a chyfeillgar sy’n cynnig bwyd blasus a dewis eang o ddiodydd yw Tafarn Teifi. Wedi’i lleoli ym mhentref gwledig Ffair Rhos (tua 15 milltir o Aberystwyth), mae’r dafarn yn manteisio’n llawn ar harddwch naturiol eithriadol yr ardal, gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd y Cambrian a Gwarchodfa Natur Cors Caron.

Er eu bod wedi treulio cyfnod yn y De, mae Catrin a Mike yn gyfarwydd iawn â’r rhan hon o Geredigion. Magwyd Catrin ym Mhontarfynach, tua wyth milltir o Ffair Rhos, cyn symud i Gaerdydd i fod yn athrawes Gymraeg. Mae Mike, gŵr Catrin, yn brif gogydd medrus sydd wedi gwneud enw da iddo’i hun ledled y wlad. Mae wedi gweithio yn rhai o’r bwytai gorau yn Llundain, yn ogystal â bod yn brif gogydd yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd, gan reoli holl geginau’r clwb golff. Mae hefyd wedi bod yn brif gogydd yng ngwesty’r Old Post Office yng Nghaerdydd a Gwesty’r Abbey yn Great Malvern ond, erbyn hyn, mae’n defnyddio’i ddawn a’i brofiad i greu prydau blasus i gwsmeriaid Tafarn Teifi!
Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi’n ddyddiol trwy ddefnyddio’r cynhwysion ffres gorau. Rydym yn cynnig pob math o fwydydd, o sglodion ffres i stêc a fydd yn tynnu dŵr o’ch dannedd.
Mae gan Dafarn Teifi ddigon o le i eistedd, ac mae’r bar eang yn golygu na fydd rhaid i chi aros yn hir am beint! Mae’r staff yn gyfeillgar dros ben a byddwn yn gwneud ein gorau glas i wneud i chi deimlo’n gartrefol. Y tu allan, mae’r ardd gwrw’n lle delfrydol pan fydd yr haul yn tywynnu, gan eich galluogi i ymlacio a mwynhau eich diod!

Mae Tafarn Teifi wedi’i lleoli ar y groesffordd yn Ffair Rhos, ac mae ei hanes yn dyddio’n ôl i’r 12fed ganrif pan oedd yn cynnig bwyd a diod i fynachod a oedd yn teithio o Ystrad Fflur.